2 Tachwedd 2015
Annwyl Weinidog
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17
Hoffwn eich gwahodd i gyfarfod o'r Pwyllgor ddydd Iau 21 Ionawr 2016 i roi tystiolaeth mewn cysylltiad â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.
Disgwylir i'r sesiwn dystiolaeth bara awr a hanner, gan ddechrau am 9.00. Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd. Byddai'n ddefnyddiol pe gallech ddarparu papur dwyieithog i'r Pwyllgor mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft erbyn dydd Mercher 6 Ionawr. Byddai'r Pwyllgor yn arbennig o ddiolchgar o gael gwybodaeth am y materion cyllidebol a amlygir yn yr atodiad i'r llythyr hwn.
Yn gywir
Christine Chapman AC
Cadeirydd
Atodiad
Cais gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ddarparu gwybodaeth i lywio'r gwaith o graffu ar gyllideb ddrafft 2016-17
Cyflwyno'r gyllideb
Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi croesawu'r gwelliannau a wnaed i'r dull o gyflwyno'r gyllideb yn y blynyddoedd diwethaf, ac wedi argymell y dylai’r gwaith barhau er mwyn sicrhau bod dyraniadau'r gyllideb yn cyd-fynd mewn ffordd fwy eglur fyth ag ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu.
Fel y llynedd, hoffai'r Pwyllgor gael y llinellau gwariant unigol sy'n berthnasol i'r Pwyllgor hwn, ar gyfer eich portffolio chi.
Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu
O ran yr ymrwymiadau yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru sydd o fewn eich portffolio chi ac sy'n berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor hwn, byddai'r Pwyllgor yn gwerthfawrogi cael gwybodaeth mewn cysylltiad â'r canlynol:
Polisïau allweddol
Yn dilyn ei waith craffu ar y gyllideb ddrafft y llynedd, hoffai'r Pwyllgor gael gwybodaeth am y polisïau a'r materion canlynol yn benodol:
· sut y mae'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi wedi llywio dyraniadau'r gyllideb eleni;
· manylion am y cyllid sydd ar gael ar gyfer trechu tlodi ar draws adrannau'r llywodraeth a gwerth am arian y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf;
· diwygiadau i'r gyfundrefn les ac effaith hirdymor polisïau Llywodraeth y DU ar gyllidebau Llywodraeth Cymru;
· y trydydd sector, yn enwedig o safbwynt cyllid ar gyfer gwasanaethau cynghori;
· canlyniad yr ymgynghoriad ar drefniadau'r Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant ar gyfer y cyfnod 2017-2020; cynhwysiant ariannol, gan gynnwys goblygiadau diwygio'r strategaeth erbyn mis Ebrill 2016, a chynaliadwyedd undebau credyd;
· sipsiwn a theithwyr, yn enwedig galwadau cyfalaf o ganlyniad i Ddeddf Tai (Cymru) 2014;
· rhaglenni Llywodraeth Cymru sy'n cyfrannu tuag at gynyddu'r cyflenwad tai yn y sectorau cyhoeddus a phreifat;
· gwasanaethau digartrefedd a'r rhaglen Cefnogi Pobl;
· y fframwaith adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid;
· cyllid ar gyfer Gofal a Thrwsio a gwasanaethau addasu cartrefi, ac ar gyfer gweithredu'r adolygiad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015;
· gwella cyflwr llety yn y sector preifat, yn enwedig benthyciadau gwella cartrefi;
· gwasanaethau cyfranogiad tenantiaid;
· y camau a gymerwyd i gyflawni a chynnal Safon Ansawdd Tai Cymru ac, yn benodol, gwybodaeth am werthusiad diweddaraf y rhaglen.
Ar gyfer pob polisi, fel y bo'n briodol, hoffai'r Pwyllgor weld:
· manylion am gostau gweithredu'r polisïau hyn yn ystod cyfnod y gyllideb ddrafft a/neu unrhyw waith a wnaed i asesu'r costau hynny;
· gwybodaeth ynglŷn â sut y bwriedir monitro a gwerthuso gweithrediad y polisi, a'r canlyniadau cysylltiedig, i ddangos gwerth am arian.
Mae'r Pwyllgor hefyd yn awyddus i weld sut y mae cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac ystyriaeth i'r Gymraeg wedi dylanwadu ar ddyraniadau'r gyllideb.
Gwariant ataliol
Fel y llynedd, mae gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn trafod gwariant ataliol fel rhan o'i waith craffu ar gyllideb ddrafft 2016-17. Dyma'r diffiniad o wariant ataliol a fabwysiedir at y diben hwn:
...gwariant sy'n canolbwyntio ar atal problemau ac sy'n lleddfu'r galw am wasanaethau yn y dyfodol drwy ymyrryd yn gynnar, a thrwy hynny sicrhau gwell canlyniadau a gwerth am arian.
Gan gofio'r diffiniad hwnnw, hoffai'r Pwyllgor gael gwybodaeth am y canlynol:
· y gyfran o'r gyllideb Cymunedau a Threchu Tlodi a ddyrannwyd ar gyfer camau gwariant ataliol;
· manylion am bolisïau neu raglenni penodol yn eich portffolio, sy'n berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor hwn, y bwriedir iddynt fod yn ataliol; a
· sut y caiff gwerth am arian rhaglenni o'r fath ei werthuso, gan ganolbwyntio'n arbennig ar beth yw'r mewnbynnau penodol a'r canlyniadau a fwriedir.
Darparu ar gyfer deddfwriaeth
Hoffai'r Pwyllgor hefyd weld:
· gwybodaeth am y graddau y mae unrhyw ddeddfwriaeth Gymreig sydd wedi'i phasio, sydd wrthi'n cael ei phasio, neu y mae wedi'i chynllunio yn y rhaglen ddeddfwriaethol, yn debygol o gael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar bortffolio'r Gweinidog ym mlwyddyn ariannol 2016-17, yn benodol gweithredu Rhan 1 a Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru), Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.
· gwybodaeth am yr effaith a geir ar y gyllideb gan unrhyw ddarnau o ddeddfwriaeth y DU ym maes portffolio'r Gweinidog, ac yn benodol diwygiadau i'r gyfundrefn les.